
Amdanom ni
Ein Llety
Dewch i ddianc i dŷ moethus sydd mewn ardal syfrdanol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Wedi’i leoli’n hwylus rhwng Conwy a Betws y Coed sy’n gyrchfannau poblogaidd iawn, mae Coed Bach yn le perffaith i fynd i edrych am ryfeddodau Gogledd Cymru.
Wedi'i leoli ym mhentref prydferth Trefriw, mae tafarndai, bwytai, siopau, a pharc o fewn pellter cerdded.
Mae teithiau cerdded gwych o'i amgylch sy'n arwain at raeadrau hudolus, llynnoedd tawel, a choedwigoedd hudolus, i gyd i’w gweld heb fod ymhell o’r eiddo.
Ar ben hynny, mae Coed Bach mewn lleoliad cyfleus, dim ond 2 filltir o Barc Antur Eryri a dim ond 5 milltir o Zip World Fforest.
Yr eiddo
Mae Coed Bach ar dair lefel ac wedi ei ddylunio i wneud yn fawr o’r golygfeydd anhygoel.
Tu allan
Mae’r ardd yn gaeedig gyda decin gwydr a set dodrefn rattan.
Mae lle i eistedd i 6 o bobl yn y twba twym gyda golygfeydd eang o'r dyffryn.
* Mae Wi-Fi ffibr cyflym iawn yn yr eiddo,
Mae digonedd o le parcio ar gael oddi ar y ffordd ar y dreif. Mae'r eiddo wedi ei leoli ar allt serth ond mae llwybr troed cyfleus i ganol y pentref.
Llawr Gwaelod:
Ystafell Chwarae: Lle llawn hwyl! Gyda bwrdd aml-gemau, bwrdd dartiau, gemau bwrdd, teganau plant, a llyfrau, mae'r gofod hwn yn sicr o ddiddanu pawb.
Ystafell Cyfleustodau: Ar ôl taith gerdded braf i fyny'r mynyddoedd, mae'r Ystafell Cyfleustodau yn lle perffaith i sychu'ch cotiau, eich esgidiau a'ch siwtiau gwlyb. Mae gennym beiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad a chyfleusterau smwddio am ddim er hwylustod i chi.
Llawr Cyntaf
Cegin: Golygfeydd hudolus o’r gegin fodern llawn offer yma. Gydag arwynebau gwaith gwenithfaen, hob anwytho, a pheiriant coffi, mae'r gofod hwn yn hafan i’r rhai sy’n hoff o goginio. Ymlaciwch yn y man eistedd cyfforddus sy'n edrych dros Ddyffryn Conwy wrth i chi fwynhau eich prydau bwyd.
Lolfa: Ar ôl diwrnod gwefreiddiol yn crwydro Eryri, mae ein lolfa yn eich gwahodd i ymlacio o flaen y stôf goed ac ymgolli yn yr awyrgylch clyd. Mae digonedd o amrywiaeth o bethau i’w gweld ar y teledu 54 modfedd.
Ail lawr
Ystafelloedd gwely: Mae tair ystafell wely yng Nghoed Bach, pob un wedi'i haddurno â dillad gwely cotwm Eifftaidd a thywelion moethus.
Ystafell Wely 1 (Prif Ystafell Wely): Lle perffaith i ymlacio gyda gwely maint king, teledu clyfar 43 modfedd, ac ystafell ymolchi en-suite i gael ychydig o breifatrwydd ychwanegol.
Ystafell wely 2: Yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd neu ffrindiau, mae'r ystafell hon yn cynnwys dau wely sengl cyfforddus.
Ystafell wely 3: Mwynhewch yr awyrgylch tawel yn ein hail ystafell wely maint King, sy’n cynnwys teledu clyfar 32 modfedd.
Ystafell ymolchi: Yn ddelfrydol ar gyfer ymlacio yng Nghoed Bach. Mae ein hystafell ymolchi goeth yn cynnwys cawod cerdded i mewn fawr, toiled, uned ymolchi, bath moethus, a goleuadau i greu awyrgylch, i sicrhau profiad gwirioneddol adfywiol.