
GWELD A GWNEUD
Croeso i'n tudalen Gweld a Gwneud, lle mae posibiliadau diddiwedd yn aros amdanoch. Mae Coed Bach mewn lleoliad perffaith yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig llu o weithgareddau ac atyniadau i bawb.
​
Byddwch yn barod i gychwyn ar daith fythgofiadwy drwy ryfeddodau Gogledd Cymru.
Llefydd Agosaf i Fynd O fewn 15 Munud
Llefydd Agosaf i Fynd O fewn 30 Munud
Llefydd Agosaf i Fynd O fewn 45 Munud

Anturiaethau
Tu Allan:
Ymgollwch yn y tirweddau syfrdanol wrth i chi gerdded ar hyd llwybrau gyda golygfeydd bendigedig, darganfod rhaeadrau cudd, a goresgyn mynyddoedd mawreddog.
Teimlwch yr adrenalin wrth i chi roi cynnig ar weithgareddau fel zip-line, dringo creigiau, neu feicio mynydd.
Mae Eryri yn le delfrydol i’r rhai sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored, a Coed Bach yw eich porth i anturiaethau di-ben-draw.
Yn y Cyffiniau:
Darganfyddwch hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal trwy ymweld â phentrefi swynol, safleoedd hanesyddol, a chestyll hynafol.
Ewch am dro hamddenol trwy drefi prydferth, pori drwy farchnadoedd lleol, a mwynhau bwyd traddodiadol a blasus.
Mae Gogledd Cymru yn drysorfa o brofiadau unigryw a fydd yn eich swyno. Byddwch eisiau gweld mwy.
Hwyl i’r Teulu Cyfan:
Mae Coed Bach yn gyrchfan perffaith ar gyfer amser byth gofiadwy gyda’r teulu.
Darganfyddwch atyniadau cyfagos fel Parc Antur Eryri, lle gall yr ifanc a’r rhai sy’n meddwl eu bod yn ifanc fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, o syrffio i ogofa artiffisial.
Mae digon i gadw’r plant yn ddiwyd wrth iddynt chwarae mewn parciau hardd, canolfannau bywyd gwyllt, ac amgueddfeydd rhyngweithiol yr ardal.
Ymlacio’n llwyr:
Ar ôl diwrnod llawn antur, cewch ymlacio yn awyrgylch tawel Coed Bach.
Gwnewch yn fawr o foethusrwydd ein llety, cymerwch fath i ymlacio, neu socian yn y twba twym a mwynhau golygfeydd syfrdanol.
Cewch ymlacio’n gyfan gwbl a chreu atgofion oes yn ein hafan dawel.